Ceisiadau am Gyfweliadau a Ffilmio

Gall gwneuthurwyr ffilm ofyn am gymorth gyda rhaglenni dogfen ar gyfer y teledu/radio neu raglenni ffuglen drwy gysylltu â'r Tîm Cyfathrebu Corfforaethol.

Sut y gallaf wneud cais i ffilmio gyda Heddlu Gwent?

  • Anfonwch e-bost i [email protected]
  • Dim ond ceisiadau ysgrifenedig a gaiff eu hystyried
  • Nodwch rif cyswllt neu fanylion cyswllt
  • Byddwch yn cael galwad ffôn neu e-bost dilynol o fewn 14 diwrnod i wneud eich cais

 Beth ddylai fy nghais ei gynnwys? 

Er mwyn ein galluogi i ddelio â'ch cais yn gyflym, gwnewch yn si?r eich bod yn cynnwys:

  • P'un a yw'r rhaglen ddogfen neu'r rhaglen wedi'i chomisiynu  - os felly, gan bwy a'r dyddiad darlledu tebygol
  • Diben y ffilmio - ydych chi'n bwriadu dangos agwedd benodol?
  • Amserlenni - pryd yr hoffech i'r ffilmio ddigwydd?
  • Lleoliad a ffefrir, neu adran yr Heddlu yr hoffech ffilmio gyda hi- a'r rheswm dros hyn
  • P'un a ydych chi'n ffilmio gydag unrhyw sefydliad neu heddlu arall. Os nad ydych, pam eich bod yn gofyn i Heddlu Gwent yn unig?
  • Geirdaon o achosion blaenorol o ffilmio, gan gynnwys enw a rhif cyswllt

 Pam mae angen ystyried ceisiadau'n llawn?   

Weithiau, mae ymrwymiadau gweithredol yn golygu na allwn helpu cymaint ag yr hoffwn. Mae angen i ni ystyried y canlynol yn llawn:

  • Sensitifrwydd a statws cyfreithiol y deunydd pwnc
  • Faint o waith ac adnoddau y mae hyn yn ei olygu i Heddlu Gwent, gan ystyried ymrwymiadau eraill ar yr adeg honno
  • Ein gallu i fodloni eich terfynau amser ar gyfer ffilmio
  • Cytundeb staff perthnasol i gael eu ffilmio
  • Buddiannau posibl y ffilmio i'r Heddlu a'r cyhoedd