Dau iPhone yn cael eu dwyn o siop yng Nghaerffili

Dydd Llun 24ain Medi, derbyniodd swyddogion hysbysiadau fod iPhone XS ac iPhone XS Max, gwerth tua £2000 wedi cael eu dwyn o siop Curry's ym Mharc Manwerthu Gallagher yng Nghaerffili.

Credir bod dau ddyn wedi mynd i mewn i'r siop tua 6pm a datgysylltu'r ffonau o'r arddangosfa cyn gadael y siop a gyrru i ffwrdd mewn Ford Fiesta gwyn neu arian.

Hoffai swyddogion siarad â'r ddau ddyn yn y delweddau hyn gan eu bod yn credu y gallant helpu gyda'u hymholiadau.

Os oes gan unrhyw un unrhyw wybodaeth am y digwyddiad hwn, ffoniwch 101 gan ddyfynnu rhif cofnod 372 24/9/18.