Wardiau Blaenau Gwent

Mae Blaenau Gwent yn ardal o dreftadaeth a newid dramatig, gydag ymdeimlad o'r gorffennol ond â'i llygaid yn edrych yn gadarn tua'r dyfodol.

Mae'n ardal sydd yn ymestyn dros 10,900 hectar ac sy'n gartref i 68,400 o bobl, mae Blaenau Gwent wedi'i rhannu'n 16 o wardiau etholedig, ac wedi'i chynrychioli gan 42 aelod etholedig.

Yn ffisegol, mae Blaenau Gwent wedi'i diffinio gan y mynyddoedd hardd anghysbell sy'n rhannu ac yn edrych i lawr ar ei dyffrynnoedd prysur, bywiog. Mae'r tair prif afon, Sirhowy, Ebwy a Tyleri yn llifo drwy drefi a phentrefi ac mae'r rhain, i'r llygad annysgedig yn edrych fel petaent yn ymdoddi i'w gilydd. Ond peidiwch â chamddeall - mae pob cymuned yn falch o'i thraddodiadau a'i chymeriadau eu hun.

Er bod y trefi'n rhoi'r argraff bod y fwrdeistref sirol yn lle prysur a threfol, mae rhan helaeth o Flaenau Gwent yn wledig. Mae pedwar deg pump y cant o'r tir heb ei ddatblygu ac mae'r rhan fwyaf yn cael ei ddiffinio fel cefn gwlad agored.