Wardiau Casnewydd

Mae Casnewydd yn ddinas amlddiwylliannol gyda'i hawyrgylch unigryw ei hun lle mae diwydiannau traddodiadol yn eistedd ochr yn ochr â sectorau gwasanaethau electroneg ac ariannol.

Yn agos i'r ffin rhwng Lloegr a Chymru, mae Casnewydd yn gorchuddio ardal ddaearyddol o ychydig dros 73.5 milltir sgwâr ac mae'n ddinas fywiog sy'n edrych i'r dyfodol. Mae'n llawn treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog sy'n ddyddio'n ôl i'r 19eg ganrif pan gydnabuwyd ei lleoliad strategol.

Mae'n ddinas sy'n gartref i Eglwys Gadeiriol a Phrifysgol ac yn ardal awdurdodau unedol yn ne ddwyrain Cymru. Mae wedi'i lleoli ar lannau Afon Wysg gerllaw'r cydlifiad ag Aber Hafren, tua 12 milltir (19km) i'r gogledd ddwyrain o Gaerdydd. Casnewydd yw'r drydedd ddinas fwyaf yng Nghymru yn ôl cyfrifiad 2011, gyda phoblogaeth dinas o 145,700 a phoblogaeth drefol o 306,844. 

Mae Casnewydd wedi bod yn borthladd ers yr Oesoedd Canol, pan adeiladwyd Castell Casnewydd gan y Normaniaid. Tyfodd y dref yn fwy na thref Rufeinig gynharach Caerllion sydd i fyny'r afon, ac fe gafodd ei siarter gyntaf yn 1314. Tyfodd yn syfrdanol yn ystod y 19eg ganrif pan ddaeth y porthladd yn ffocws i allforio glo o gymoedd dwyreiniol De Cymru. 

Yn ystod yr 20fed ganrif, pan ddirywiodd pwysigrwydd y dociau, parhaodd Casnewydd yn ganolfan weithgynhyrchu a pheirianneg bwysig. Derbyniodd statws dinas yn 2002. 

Hon yw'r ardal drefol fwyaf o fewn ffiniau sirol hanesyddol Sir Fynwy a Gwent.