Wardiau Torfaen

Mae Torfaen yn fwrdeistref sirol yng Nghymru o fewn ffiniau hanesyddol Sir Fynwy. Cafodd ei sefydlu'n wreiddiol yn 1974 fel ardal yn Sir Gwent ac yn 1996 cafodd ei ail ffurfio fel prif ardal.

Mae'n gorchuddio ardal o 126km² ac mae ganddi boblogaeth o tua 91,400. Torfaen yw'r 3ydd bwrdeistref leiaf yng Nghymru gyda thri phrif anheddiad yn mynd o'r de i'r gogledd.

Mae Torfaen wedi'i leoli yn ardal fwyaf dwyreiniol cymoedd De Cymru ac mae'n gartref i nifer o atyniadau i ymwelwyr megis y Safle Treftadaeth Byd cyntaf yn Ne

Cymru.

Mae rhan helaeth o ardaloedd deheuol y Fwrdeistref wedi'u trefoli o gwmpas cytrefiad Tref Newydd Cwmbrân sydd, erbyn hyn, â'r boblogaeth fwyaf o tua 49,000. Canolfan Siopa Cwmbrân yw prif ardal adwerthu Torfaen ac mae'n denu 17 miliwn o gwsmeriaid y flwyddyn o ardal ehangach Gwent a choridor yr M4.

Gyda gogledd y sir yn cadw'r ymdeimlad gwledig gydag erwau o gefn gwlad a'i threftadaeth ddiwylliannol a hanesyddol gyfoethog, mae twristiaeth yn chwarae rôl enfawr yn yr economi.

Pontypool, gyda'i marchnadoedd traddodiadol dan do ac awyr agored, a oedd gynt yn dref ddiwydiannol, yw'r ail anheddiad fwyaf ac mae wedi'i lleoli yng nghalon y fwrdeistref gyda phoblogaeth o tua 36,000.

Mae gan dref Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon  boblogaeth o 6,000 a dyma'r dref fwyaf gogleddol yn y fwrdeistref. Mae Blaenafon yn enwog am amgueddfa lofaol Big Pit, yn ogystal âr gwaith haearn o'r 18fed ganrif sydd wedi'i gadw orau yn Ewrop.